Tybed a ydw i wedi bod yn rhy amheus a di-groeso?
Daeth merch at y drws y prynhawn 'ma. Drysodd fi o'r cychwyn trwy ddweud
"I'm [enw oedd yn swnio fel] 'Russian'; I'm from India." Cyhyd ag yr
oeddwn i'n medru deall ei Saesneg, 'roedd hi'n cynrychioli asiantaeth
cyfieithu ac yn chwilio am gyfieithwyr/asiantaethau i gyd-weithio a nhw
mewn sawl iaith. 'Roedd hi wedi cael fy manylion oddi ar y we. Teimlais
yn amheus iawn ynghylch rhywun yn dod i'r drws fel hyn, ac er imi ei
gwahodd i mewn i'r lobi, 'doeddwn i ddim am iddi ddod ymhellach, nac am
ei gadael hi ar ei phen ei hun er mwyn mynd i nol unrhyw beth.
Eglurais fy mod i wedi ymddeol, mwy neu lai, ac yn ddewisol iawn
ynghylch y gwaith 'rwy'n ei gymryd, felly nid oedd gennyf unrhyw
ddiddordeb. Awgrymais iddi gysylltu a Chymdeithas y Cyfieithwyr (gan
roi'r cyfieithiad Saesneg - sori, Geraint), a thynnodd lun o'i manylion
o'm rhestr cyfeiriadau. Awgrymais y dylai hi gysylltu a'r Ysgol
Ieithoedd yn y Brifysgol i ofyn ynghylch cyfieithwyr lleol sy'n delio ag
ieithoedd eraill, ond 'doedd hi ddim yn ymddangos bod hynny'n apelio.
'Roedd hi'n dal i ofyn am fy mhrisiau ac a oeddwn i'n barod i gydweithio
ar brosiectau. 'Roedd ei Saesneg mor wan fel, pan ddywedais "Do you know
Bangor?" wrth drio ei chyfeirio hi at y Gymdeithas, 'doedd hi ddim yn
deall yr ymadrodd. 'Dywedodd y byddai yn Gwglo'r Gymdeithas heno.
Ar ol imi gael gwared arni, ffoniais Nia, yn swyddfa'r Gymdeithas, a
dywedodd hi bod y ferch eisoes wedi galw arni hi a Geraint, cyn dod ataf
i. Ar ol sawl camddealltwriaeth, 'roedden nhw wedi dweud wrthi nad
oeddent yn delio ag ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.
A oes unrhyw un arall wedi cael y ferch hon yn galw arno/arni? A oes
rhywun yn gwybod rhagor? A yw hi'n ddilys? Beth yn y byd oedd yn mynd
ymlaen?
Ann
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|