Diddorol iawn!
Ar 12/02/2019 12:45, ysgrifennodd John Dixon:
> Dwi'n cael llawer o'r negeseuon yma hefyd. Efallai y bydd y ddolen hon o ddiddordeb i'r grŵp:
>
> http://wiki.proz.com/wiki/index.php/Detecting_and_reacting_to_false_job_offers_and_other_scams#.22Advance_payment.22_.2F_.22overpayment.22_scam
>
> Mae hyn yn sgam gweddol gyffredin, ymddengys.
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> On Behalf Of Claire Richards
> Sent: 12 February 2019 11:23
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Merch o'r India
>
> Cawsom ni alwad ffôn yn y swyddfa yr wythnos ddiwethaf gan ddyn a ofynnodd am fanylion ein lleoliad. Dywedwyd wrtho bod ein cyfeiriad post ar ein gwefan ac o dan ein henwau ar wefan Cymdeithas y Cyfieithwyr, ond roedd fel pe bai eisiau dod i'r swyddfa ei hun. Doedden ni ddim yn gyfforddus â hyn ac felly daethom â'r sgwrs i ben heb roi cyfarwyddiadau sut i gyrraedd iddo.
>
> Nawr, dim ond damcaniaeth yw hyn, ond... Yn ddiweddar rydyn ni wedi cael nifer go lew o negeseuon e-bost oddi wrth asiantaethau mewn gwledydd tramor, yn dweud bod ganddyn nhw waith Saesneg / Cymraeg ac yn gofyn inni "gydweithio" gyda nhw. Tybed ydi un / rhai o'r asiantaethau hyn wedi cael gafael ar bobl sy'n byw yma ac wedi eu hanfon i alw ar gyfieithwyr i gael sgwrs wyneb yn wyneb mewn ymgais i gael y cyfieithwyr i gymryd gwaith ganddyn nhw?
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 11 February 2019 20:42
> To: [log in to unmask]
> Subject: Merch o'r India
>
> Tybed a ydw i wedi bod yn rhy amheus a di-groeso?
>
> Daeth merch at y drws y prynhawn 'ma. Drysodd fi o'r cychwyn trwy ddweud "I'm [enw oedd yn swnio fel] 'Russian'; I'm from India." Cyhyd ag yr oeddwn i'n medru deall ei Saesneg, 'roedd hi'n cynrychioli asiantaeth cyfieithu ac yn chwilio am gyfieithwyr/asiantaethau i gyd-weithio a nhw mewn sawl iaith. 'Roedd hi wedi cael fy manylion oddi ar y we. Teimlais yn amheus iawn ynghylch rhywun yn dod i'r drws fel hyn, ac er imi ei gwahodd i mewn i'r lobi, 'doeddwn i ddim am iddi ddod ymhellach, nac am ei gadael hi ar ei phen ei hun er mwyn mynd i nol unrhyw beth.
>
> Eglurais fy mod i wedi ymddeol, mwy neu lai, ac yn ddewisol iawn ynghylch y gwaith 'rwy'n ei gymryd, felly nid oedd gennyf unrhyw ddiddordeb. Awgrymais iddi gysylltu a Chymdeithas y Cyfieithwyr (gan roi'r cyfieithiad Saesneg - sori, Geraint), a thynnodd lun o'i manylion o'm rhestr cyfeiriadau. Awgrymais y dylai hi gysylltu a'r Ysgol Ieithoedd yn y Brifysgol i ofyn ynghylch cyfieithwyr lleol sy'n delio ag ieithoedd eraill, ond 'doedd hi ddim yn ymddangos bod hynny'n apelio.
> 'Roedd hi'n dal i ofyn am fy mhrisiau ac a oeddwn i'n barod i gydweithio ar brosiectau. 'Roedd ei Saesneg mor wan fel, pan ddywedais "Do you know Bangor?" wrth drio ei chyfeirio hi at y Gymdeithas, 'doedd hi ddim yn deall yr ymadrodd. 'Dywedodd y byddai yn Gwglo'r Gymdeithas heno.
>
> Ar ol imi gael gwared arni, ffoniais Nia, yn swyddfa'r Gymdeithas, a dywedodd hi bod y ferch eisoes wedi galw arni hi a Geraint, cyn dod ataf i. Ar ol sawl camddealltwriaeth, 'roedden nhw wedi dweud wrthi nad oeddent yn delio ag ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.
>
> A oes unrhyw un arall wedi cael y ferch hon yn galw arno/arni? A oes rhywun yn gwybod rhagor? A yw hi'n ddilys? Beth yn y byd oedd yn mynd ymlaen?
>
> Ann
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
> ---
> This email has been checked for viruses by AVG.
> https://www.avg.com
>
>
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|