Prynhawn da bawb,
Rydw i newydd gyfieithu darn o waith sy'n cynnwys "Saundersfoot". Roeddwn i wedi ei adael fel Saundersfoot gan nad oeddwn erioed wedi clywed enw Cymraeg ar gyfer Saundersfoot, a Saundersfoot sydd i'w weld ar Term Cymru, Enwau Cymru a'r Corpws.
Fodd bynnag, mae'r cwsmer yn mynnu mai Llanussyllt yw Saundersfoot, a naeth e dynnu fy sylw at erthygl Wikipedia. Nawr, gwn nad yw Wikipedia'n ffynhonnell ddibynadwy, ac mae'r ffynonellau swyddogol rwyf wedi'u henwi i gyd yn dweud Saundersfoot, ond roeddwn i eisiau barn rhywun sydd o bosibl yn gwybod yn well na fi?
Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth.
Cofion gorau,
Meinir
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|