Gyfeillion
Rwy'n nodi y bu trafodaeth ar y fforwm hwn dros ddegawd yn ôl lle cytunwyd ar y term 'gweithiwr unigol'. Mae'r term hwn i'w weld hefyd i'w weld ar Term Cymru (statws C).
Cefais drafodaeth gydag unigolyn heddi sy'n gweithio yn y maes, a'i barn hi oedd bod rhaid dweud 'gweithwyr ar eu pennau eu hunain' (er bod hynny'n llond ceg!), a 'gweithio ar eich pen eich hun' ar gyfer 'lone working'.
Y cyd-destun fel rheol yw bod e.e. sefydliadau yn gwneud addasiadau/trefniadau penodol er mwyn diogelu/helpu/hwyluso'r gweithwyr hynny sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain (e.e. gweithio adre, sy'n digwydd yn fwy a mwy aml). Ond gallwch chi fod yn 'weithiwr unigol' mewn nifer o gyd-destunau eraill, ac nid o reidrwydd dim ond pan fyddwch chi ar eich pen eich hun.
Ydych chi'n cytuno/gwrthwynebu?
Diolch yn fawr
Emily
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|