Defnyddio 'nhw' gan mai dyna beth mae nifer o bobl anneuaidd rwyf yn
eu hadnabod yn ei ddefnyddio'n barod.
Máire
On Tue, 22 Jan 2019 at 14:13, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
>
> Dim modd osgoi hyn yn y darn sydd gen i.
>
>
>
> Mae Stonewall yn dweud fel hyn: “Weithiau bydd yn well gan bobl anneuaidd gyfeirio atyn nhw eu hunain gan ddefnyddio rhagenwau di-rywedd, er enghraifft 'nhw' yn lle 'fe' neu 'hi'.”
>
>
>
> Mae hyn yn deillio, wrth gwrs, o ddefnyddio ‘they’ yn Saesneg am y trydydd person unigol amhendant. Ond i mi mae’n haws yn Saesneg, gan fod hanes hir i’r defnydd o ‘they’ mewn ystyr debyg i’r Ffrangeg ‘on’ neu'r Almaeneg ‘man’ – ‘they say every cloud has a silver lining’. Mewn cyferbyniad, i mi mae ‘nhw’ yn Gymraeg wastad yn lluosog.
>
>
>
> Beth sy’n digwydd mewn ieithoedd eraill lle mae dwy genedl ramadegol? Yn Ffrangeg mae pobl wedi creu amrywiaeth o eiriau, gan gynnwys cyfuniadau o ‘il’ ac ‘elle’ fel ‘ille’ ac ‘el’.
>
>
>
> A ddylem ni greu rhagenw sy’n gyfuniad o ‘ef’ a ‘hi’, tybed? Ond wedyn be wnawn ni o ran treiglo ar ôl ‘ei’? Neu a ddylem ni ddilyn siaradwyr Saesneg a defnyddio ‘nhw’?
>
>
>
> Claire
>
>
>
>
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
>
>
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.
>
>
>
>
> ________________________________
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|