Aha! Diolch Brenda.
Roeddwn i wedi chwilio 'pot', 'ale' (a 'potale', a dweud y gwir!) - pam na feddyliais i am yr heiffen?
Y peth sy'n cymhlethu'r mater yw bod angen gwahaniaethua rhwng *lees*, *pot ale* a *draff*. Gwaddod faswn i'n galw'r cwbl lot yn Gymraeg!
Mae GPC a GyrA yn rhoi sawl opsiwn, gyda pheth gorgyffwrdd o ran y termau Cymraeg.
O dan 'soeg' yn GPC, gallaf roi dau mewn parau yn eithaf clir:
gwaddod(ion)= draff
gweddill(ion) = lees
Tybed felly a yw 'soeg(ion)' neu 'gweisgion' yn o lew o agos ati ar gyfer 'pot ale'? Gellid hefyd ystyried 'gwehilion', 'gwaelodion', 'sorod'.
Dwi'n meddwl gallai 'soeg' weithio, ond byddai'n dda iawn gen i gael barn eraill y cylch. Rhaid ystyried 'pot ale suryp' hefyd. Surop soegion?
Ond, efallai:
gwaddodion = draff,
gwaelodion = lees,
gweddillion = pot ale
fel triawd llyfnach?
Mae fy mhen i'n troi efo'r cwbl erbyn hyn! (ac nid effaith gwirod sydd ar fai, wir yr!)
Gyda diolch
Gwenlli
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|