Dwi’n siŵr bod ‘na restr yn rhywle o’r berfau lle mae angen cynnwys “i” rhyngddynt â berfenw. Methu meddwl lle mae hi.
Dwi wedi drysu.
Ai “Helpwch atal llygredd” ‘ta “Helpwch i atal llygredd” sy’n gywir?
Ydi’r ffaith mai “Helpwch ni i atal llygredd” sy’n iawn yn awgrymu bod angen yr “i” yn “Helpwch i atal llygredd”?
Mae’r ddwy ffurf yn digwydd yn eitha aml ar y we.
Dyma sy’n dod o weithio ar brynhawn Sadwrn!
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|