Diolch Osian a Neil,
Mae cydgyfeiriadedd a rhyngblethu, yn gynigion da, dwi'n credu...
Ond wrth eu defnyddio, mae'r ffurf rhyngblethu = to intersect, dydi?
Felly sut i fynegi'r enw ydi'r bwgan: 'intersectionality' - rhyngblethiad? (rhyngblethiadwyedd?!! jôc!) nodweddion rhyngblethol? nodweddion sy'n rhyngblethu...? ayyb.
Mae cydgyfeiriadedd yn ffitio'r ffurf enwol (dwi'n meddwl!). Cydgyfeiriadedd = intersectionality.
Mae olwynion fy meddwl wedi mynd i'r gors, m'arnai ofn!
Gwenlli
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|