Dyna wnes i feddwl amdano hefyd. Dwi’n meddwl y byddwn i’n osgoi “paradeim”.
Siân
> On 20 Apr 2018, at 15:15, Cyfri Dot <[log in to unmask]> wrote:
>
> Fyddai ‘newid sylfaenol’ yn iawn am paradigm shifft?
>
> Catrin
>
> Anfonwyd ar fy ffôn iDot
>
>> On 20 Apr 2018, at 14:53, Gwenlli Haf <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Annwyl gyfeillion,
>>
>> Dyma ymofyn cymorth y cylch. Mae gen i ddarn o waith sy'n cynnwys y cymal 'a roadmap for a paradigm shift in Wales' yn ei deitl.
>>
>> Rydw i wedi bod yn cnoi cil ar y ddau derm ers dyddiau bellach, yn ogystal â thrafod efo fy nhad (dwi'n ddigon ffodus i gael cyfieithydd wedi ymddeol ar gael i mi gael ei fwydro a'i holi'n dwll!). Mi fuaswn yn hynod ddiolchgar o gael barn a myfyrdodau'r cylch.
>>
>>
>> Dyma ydw i'n ysytyried ei ddefnyddio:
>>
>> 'mapio'r llwybr tuag at baradeim newydd'
>>
>> a Map Llwybr ar gyfer y 'Roadmap' e.e. 'mae'r Map Llwybr yn dangos...'
>>
>> Cyd-destun:
>> Mae 'roadmap' angen gweithio fel teitl ar beth diriaethol - mae'n cynnwys tablau penodol, sef 'the roadmap'. (ceir enghraifft dda iawn o 'ar drywydd...' ar BTC, ond ni fyddai'n addas yma gan ei fod yn enwi peth penodol.)
>>
>> Gwn fod 'syfliad paradeim' yn ymddangos yn y Termiadur ar gyfer 'paradigm shift', ond rydw i'n gyndyn iawn o'i ddefnyddio - mae'n gwyro braidd tuag at jargoneg, a dydw i ddim yn credu y byddai'n ddealladwy i lawer o gynulleidfa'r ddogfen.
>>
>> Mae'r ddogfen yn sôn yn ei hanfod am greu patrwm newydd, ffordd wahanol o weithio, felly dwi'n gyfforddus efo 'newydd' yn lle 'syfliad'.
>> Fe wnes i ystyried 'gweddnewid' 'trawsnewid 'dullnewid' ayyb, ond ni wnaeth yr un ohonyn nhw fy argyhoeddi wrth eu rhoi ar brawf yn y testun.
>>
>> Felly - ydi'r teitl dwi'n ei awgrymu yn taro deuddeg? Ynteu'n gwneud i aelodau profiadol y cylch grebachu eu wynebau? Dichon mod i wedi gor-feddwl am y cwbl, ond rhaid osgoi gosod rhywbeth blêr fel cynsail a fydd allan ar y rhyngrwyd hyd dragwyddoldeb ar bob cyfrif!
>>
>> Llawer o ddiolch,
>>
>> Gwenlli Haf
>>
|