Fyddai ‘newid sylfaenol’ yn iawn am paradigm shifft?
Catrin
Anfonwyd ar fy ffôn iDot
> On 20 Apr 2018, at 14:53, Gwenlli Haf <[log in to unmask]> wrote:
>
> Annwyl gyfeillion,
>
> Dyma ymofyn cymorth y cylch. Mae gen i ddarn o waith sy'n cynnwys y cymal 'a roadmap for a paradigm shift in Wales' yn ei deitl.
>
> Rydw i wedi bod yn cnoi cil ar y ddau derm ers dyddiau bellach, yn ogystal â thrafod efo fy nhad (dwi'n ddigon ffodus i gael cyfieithydd wedi ymddeol ar gael i mi gael ei fwydro a'i holi'n dwll!). Mi fuaswn yn hynod ddiolchgar o gael barn a myfyrdodau'r cylch.
>
>
> Dyma ydw i'n ysytyried ei ddefnyddio:
>
> 'mapio'r llwybr tuag at baradeim newydd'
>
> a Map Llwybr ar gyfer y 'Roadmap' e.e. 'mae'r Map Llwybr yn dangos...'
>
> Cyd-destun:
> Mae 'roadmap' angen gweithio fel teitl ar beth diriaethol - mae'n cynnwys tablau penodol, sef 'the roadmap'. (ceir enghraifft dda iawn o 'ar drywydd...' ar BTC, ond ni fyddai'n addas yma gan ei fod yn enwi peth penodol.)
>
> Gwn fod 'syfliad paradeim' yn ymddangos yn y Termiadur ar gyfer 'paradigm shift', ond rydw i'n gyndyn iawn o'i ddefnyddio - mae'n gwyro braidd tuag at jargoneg, a dydw i ddim yn credu y byddai'n ddealladwy i lawer o gynulleidfa'r ddogfen.
>
> Mae'r ddogfen yn sôn yn ei hanfod am greu patrwm newydd, ffordd wahanol o weithio, felly dwi'n gyfforddus efo 'newydd' yn lle 'syfliad'.
> Fe wnes i ystyried 'gweddnewid' 'trawsnewid 'dullnewid' ayyb, ond ni wnaeth yr un ohonyn nhw fy argyhoeddi wrth eu rhoi ar brawf yn y testun.
>
> Felly - ydi'r teitl dwi'n ei awgrymu yn taro deuddeg? Ynteu'n gwneud i aelodau profiadol y cylch grebachu eu wynebau? Dichon mod i wedi gor-feddwl am y cwbl, ond rhaid osgoi gosod rhywbeth blêr fel cynsail a fydd allan ar y rhyngrwyd hyd dragwyddoldeb ar bob cyfrif!
>
> Llawer o ddiolch,
>
> Gwenlli Haf
>
|