Diolch i chi a Geraint Jones am eich ymchwil. Mae'n dipyn o wastraff, a
dweud y gwir, na fydd y deunydd sydd gan y cwsmer yn cael ei ddefnyddio
ond ar raddfa gyffredinol iawn.
'Rwy'n siwr bod y rhai sydd wedi astudio'r Diwygiad yn ymwybodol iawn o
hyn, ond 'roedd yn syndod i mi i weld y fath hwb a gafwyd gan y merched.
Ceir capel ar ol capel yn dweud rhywbeth fel hyn: 'Yn y gorffennol bu'n
ddigon anodd cael y dynion i gymryd rhan, ond rwan mae'r dynion a'r
merched am y cyntaf i ddweud eu profiad. Nid ydym erioed wedi cael merch
yn siarad yn gyhoeddus yn y capel o'r blaen."
Ann
On 23/03/2018 21:43, Geraint Huw Rowlands wrote:
> O gofio fod y darn yn dyddio o'r diwygiad, efallai ei bod yn berthnasol fod yna gapel bedyddwyr o'r enw Codau wedi bod yn Llangernyw hyd y 1980au. Mae cyfeiriadau i'r Ty Capel i'w gweld hyd heddiw ar y wê, a fferm o'r enw Codau Mawr ar fy map OS (1:25,000).
>
> Tydy'r lle yn ddim mwy na chapel a fferm yn ôl be wela i, ond pwy a wyr beth oedd ei dalgylch canrif yn ôl...
>
> --
> Geraint RowlandsOn 23/03/2018 16:17 Neil Shadrach wrote:
> Rwy'n cymryd nad yw pobl yn cyfeirio at Betws-y-coed a Melin-y-coed fel y coedau?
>
>
> Ar 23 Mawrth 2018 am 16:01, brenda.llysgwen <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
>
> Ydi'r collnod r yn gliw? H y rhywbeth fel 'a'r cyffiniau' yn hytrach nag enw lle? (A dwi'n sylweddoli fod 'cyffiniau' yn rhy hir....).
>
>
> Sylwi fod yr enwau yn eu trefn - cylch bach daearyddol taclus. A dim enw lle'n edrych yn debyg i Codau.
>
>
>
>
>
>
> Sent from my Samsung Galaxy smartphone.
>
>
> -------- Original message --------
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> Date: 23/03/2018 14:52 (GMT+00:00)
> To: [log in to unmask]
> Subject: Y Codau
>
>
> Dyma nodyn o adeg y Diwygiad, wedi'i sganio gan y cwsmer ers talwm. 'Dyw'r gwreiddiol ddim ganddo mwyach, ac mae sawl gwall OCR yn y testun, felly mae'n reit bosibl mae camddarlleniad yw "Codau". A all unrhyw un dalu unrhyw oleuni ar yr enw? 'Dw i'n methu meddwl.
>
> "Gwelsom yma bobl wedi cyrchu yn nghyd o'r holl wlad o amgylch y Gonwy, megis o Penmaen-mawr, a Chonwy, a Llandudno, a'r Junction, a Colwyn, a Colwyn Bay, a Llanelian, a'r Codau, ac Eglwysbach, a Roewen, &c. Yr oedd wedi tori allan yn orfoledd, a llawer yn methu gwybod pa un ai yn y nefoedd ynte ar y ddaear yr oeddynt."
> Diolch yn fawr iawn,
> Ann
>
>
>
> --
> 5 Heol Belmont
> BANGOR
> Gwynedd
> LL57 2HS
> (01248) 371987
> [log in to unmask]
>
>
>
> Mae croeso i chi gysylltu gyda'r Brifysgol yn Gymraeg neu Saesneg
>
> You are welcome to contact the University in Welsh or English
>
> Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
>
> This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.
>
--
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]
|