I roi ychydig mwy o gefndir technegol i'r term:
Yn yr hen ddyddiau (pan roedd pawb yn defnyddio rhaglen ebost pwrpasol yn hytrach na phorwr gwê) byddai'n rhaid i chi bwyso botwm os am holi'r gweinydd a oedd e-bost newydd yn aros amdanoch, a “thynnu'r” wybodaeth o'r gweinydd. Y syniad tu ôl i 'push notification' yw fod y gweinydd yn gyrru (neu'n gwthio) neges atoch chi i ddweud fod e-bost neu beth-bynnag wedi cyrraedd.
--
Geraint RowlandsOn 15/03/2018 16:20 Osian Rhys wrote:
Ydy'n werth ystyried 'hysbysiadau ymwthiol'? Ddim y term mwya slic dw i'n gwbod...
Rhag ofn bod rhywun yn anghyfarwydd ond am drio meddwl am rywbeth sliciach, y cysyniad (yn fy mhen i o leia) ydy eu bod nhw'n gwthio'u ffordd i'ch sylw, o flaen popeth arall. Os ydych chi'n diffodd 'push notifications' ar gyfer rhaglen benodol, mae'r hysbysiadau yn dal yno os ewch chi i chwilio ond dydyn nhw ddim yn gwneud sŵn ac yn fflachio er mwyn mynnu eich sylw.
Osian
Ar 15 Mawrth 2018 am 14:58, MELANIE DAVIES <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Prynhawn da,
Oes unrhyw un wedi creu neu wedi dod ar draws am derm am hwn? Negeseuon byr ydyn sy'n ymddangos ar eich ffôn o apiau sydd wedi'u gosod ar eich ffôn.
Diolch
Melanie
Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.
|