"Un mlynedd ar hugain" medd David Thorne yn "Gramadeg Cymraeg Cynhwysfawr" (para 110).
Ond mae PWT yn dweud "yr unig rifol y gall blwyddyn ei ddilyn yw un" (4.209[b]) ac mae hynny'n awgrymu nad oes dim o'i le ar "un flwyddyn ar hugain".
Wedyn, yn GPC, o dan "blynedd" ceir hyn:
"a (fel arfer ar ôl rhifolyn ac eithrio un (heblaw mewn rhif cyfansawdd) a mil:
b (ar ôl trefnolyn ac eithrio un (heblaw mewn rhif cyfansawdd):"
Felly, yn ôl GPC, 'blynedd' yw'r gair am 'year' ar ôl 'un', heblaw mewn rhif cyfansawdd lle mae 'blwyddyn' neu 'blynedd' yn gallu digwydd.
Mae'n edrych yn debyg i mi fod 'un flwydd ar hugain' ac 'un mlynedd ar hugain' yn gywir.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 23 Chwefror 2018 09:56
To: [log in to unmask]
Subject: 21 mlynedd
Help,
Dwi wedi cael bloc ymenyddol braidd ac yn methu meddwl pa un sy'n gywir
- un flwydd ar hugain ynteu un mlynedd ar hugain? Dwi'n tueddu at y cyntaf ond yn dechrau amau fy hun, a fedra i ddim ffeindio'r ateb yng Ngramadeg PWT.
Gwerthfawrogir unrhyw oleuni!
Geraint
---
This email has been checked for viruses by AVG.
http://www.avg.com
|