Dwi ddim yn meddwl bod angen cymeradwyo defnyddio 'Stryd Gymreig' - mae'n erchyll ac yn ddiystyr.
Byddwn i'n cadw at 'Welsh Street' am y tro.
Pe bai un o'r cynghorau perthnasol eisiau enw Cymraeg swyddogol, byddwn i'n awgrymu iddynt gael arbenigwr ar hanes lleol i ymchwilio i darddiad yr enw ac a fu erioed enw Cymraeg ar yr heol, ac wedyn penderfynu.
O ran Welsh Bridge ac English Bridge yn yr Amwythig, y pontydd sy’n cario'r heolydd i Loegr ar un ochr i'r dre a Chymru ar yr ochr arall ydyn nhw.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 12 January 2018 16:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Welsh Street (Cas-gwent)
Dyna beth dw i ddim yn wbod!
Google yn ffindio nifer o enghreifftiau o "Stryd Gymreig” + Cas-gwent ar wefannau cyrff cyhoeddus - y cyngor sir yn bennaf (a nhw sy’n penderfynu) ond dwi ddim yn gwybod ydi hynny’n golygu ei fod yn swyddogol ‘ta cyfieithydd sydd wedi penderfynu ei gyfieithu.
Cymhleth!
Siân
> On 12 Jan 2018, at 16:28, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:
>
> Ydy 'Stryd Gymreig' yn swyddogol felly?
>
> ----Original message----
> From : [log in to unmask]
> Date : 12/01/2018 - 16:28 (GMTST)
> To : [log in to unmask]
> Subject : Re: Welsh Street (Cas-gwent)
>
> Dim ond Welsh Street sydd ar yr arwydd (yn ôl Google Streetview) ond mae sawl enghraifft o “Stryd Gymreig” ar wefan y Cyngor Sir.
> Dwi ddim cweit yn siŵr beth mae hynny’n ei olygu - gw. cyfraniad Aled Powell at y drafodaeth ar Enwau Strydoedd Doc Penfro ddoe.
>
> Siân
>
>
>> On 12 Jan 2018, at 16:03, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> A oes enw Cymraeg? Diolch.
|