'Dofednod' a geir yn holl ddeunyddiau sioeau Llanelwedd.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenlli Haf
Sent: 27 November 2017 15:02
To: [log in to unmask]
Subject: poultry - pwltri - dofednod
Annwyl Gyfeillion,
Hoffwn glywed barn neu awgrymiadau:
Mae angen i'r darn (sy'n trin bwydydd) fod yn ddealladwy i gynulleidfa eang. Petruso braidd efo 'dofednod', gan nad yw'n ddealladwy i nifer o siaradwyr Cymraeg llawr gwlad.
Mae 'pwltri' yn ymddangos yn GPC, ond wela i ddim enghreifftiau cyfoes ohono yn unman.
Rydw i wedi gallu defnyddio 'cyw iâr' yn y gorffennol, ond mae'r darn dan sylw yn cyfeirio at fwydydd dros gyfnod y Nadolig, felly dyma orfod wynebu'r peth o ddifrif!
Gyda diolch,
Gwenlli
|