Dwi'n cyfieithu gwaith addysg grefyddol ac yn cyfeirio tipyn at y Beibl.
Dwi'n amau bod camgyfieithiad yn y Beibl Cymraeg Newydd yn adnod 28
Genesis 1.
Mae'n sôn am "bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear".
"pob peth byw a ymsymudo ar y ddaear" sydd ym Meibl William Morgan.
Dwi'n meddwl bod troswyr y Beibl newydd wedi drysu efo adnod 26 sy'n sôn
am ymlusgiaid.
Digon i wneud i ddyn amau gweddill y Beibl newydd, dydi.
Geraint
|