Mae'n siŵr y byddai angen dechrau gyda'r diffiniad o 'parental leave'.
Y mwyaf cyffredin yw "Parental leave is for employees to take time off work to look after a child's welfare" neu "..to look after a child or make arrangements for their welfare". (ACAS ac eraill).
Hyd y gwelaf, mae'n cynnwys absenoldeb mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu, ond hefyd absenoldeb ar adegau eraill e.e. er mwyn "spend more time with their children, look at new schools, settle children into new childcare arrangements, spend more time with family, such as visiting grandparents" (GOV.UK).
Bydd yn dipyn o gamp dod o hyd i ymadrodd cryno i gynnwys hynna i gyd.
Hyd yn oed o ddefnyddio 'absenoldeb rhieni', gellir ei ddehongli fel 'the absence of parents".
A fyddai ansoddair yn osgoi problem "the absence of"? Mae'r ansoddair 'rhieiniol' yn bodoli - mae yng Ngeiriadur yr Academi. Ddim yn arbennig o naturiol yn y Gymraeg, dwi'n gwybod.
Fel y dywed Siân, defnyddir "Absenoldeb Rhiant a Rennir" am "shared parental leave", fel yn nheitl "Gorchymyn Absenoldeb Rhiant a Rennir a Chyflog Rhiant Statudol a Rennir (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth)".
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 26 July 2017 12:00
To: [log in to unmask]
Subject: Parental Leave
Rhywbeth ichi gnoi cil arno ar ddiwrnod glawog fel hyn. Dwi'n gwybod mai Absenoldeb Rhiant ydi'r term a roddir yn Term Cymru am hyn.
Ond mae yn fy nharo i'n od ac yn awgrymu rhywbeth fel "The Absence of a Parent". Yn enwedig mewn pennawd. A heb sôn am "Shared Parental Leave".
Tybed oes yna ffordd well o ddweud hyn?
Geraint
|