Diolch, Megan. Nid oeddwn i'n meddwl am ein cyfraniad ni yn unig. 'Roedd
POB neges W-T-C gen i fesul blwyddyn, ac yn llawer haws mynd trwyddynt
fel 'na. Mi fydda i'n cael rhesymau dros edrych ar negeseuon hen iawn
hefyd. A dweud y gwir, prin 'rwyf wedi cael amser eto i sylweddoli pan
mor anghyfleus mae hyn yn mynd i fod. Yr unig gysur yw bod llawer o'r
blwch "Sent" wedi'i safio, a hynny'n cynnwys gohebiaeth yr oeddwn wedi'i
hateb.
Diolch yn fawr iawn am air o gydymdeimlad!
Ann
On 19/07/2017 19:57, megan tomos wrote:
> O, Ann, Druan.
>
> A oes posibilrwydd y bydd dy gyfraniadau gwerthfawr di a Bruce yn yr archif cyffredinol sydd gan Welsh Termau?
>
> Rydw innau wedi colli llawer o gysylltiadau dros y blynyddoedd.
>
> Bellach, rydw i'n gofyn y cwestiwn - pryd faswn i wedi cael y cyfle i ailymweld รข llawer o'r ohebiaeth yma.
>
> Cwyd dy galon. Os nad oes perygl i dy identiti, gad inni obeithio bod llawer iawn o chwynnu wedi digwydd drosot ti.
>
> Mae cadw'r holl ohebiaeth yma yn bapur ac fel arall yn ein llethu.
>
> Cofion at y ddau ohonoch chi.
>
> Megan
> ----Original message----
> From : [log in to unmask]
> Date : 19/07/2017 - 19:26 (GMTDT)
> To : [log in to unmask]
> Subject : Apel Personol - Argyfwng Cyfrifiadurol
>
> Annwyl Bawb,
>
> 'Roedd gen i nifer FAWR o Ffolderi o ohebiaeth ar y cyfrifiadur, yn mynd
> yn ol blynyddoedd maith. 'Roeddent yn cynnwys, er enghraifft, ymhell
> dros ddeng mlynedd o ohebiaeth Welsh-Termau Cymraeg a gohebiaeth breifat
> ynghylch termau, gohebiaeth a chwsmeriaid gan gynnwys atebion i
> gwestiynau, materion yswiriant, gwyliau, personol ayb. Yr wythnos
> ddiwethaf, bum yn brysur yn tacluso nifer fawr o negeseuon o'r Inbox i'r
> ffolderi perthnasol.
>
> Dros y Sul, cefais "fyg" ar weinydd yr e-bost (Thunderbird) a gaeodd fy
> nghyfrif e-bost. 'Roedd y ffolderi i gyd wedi diflannu. Mae'n debyg,
> taswn i wedi mynd a'r cyfrifiadur i'r siop yn syth, byddai wedi bod modd
> i'w hachub, ond yn lle hynny, dilynais gyngor ar ryw wefan ynghylch sut
> i ail-gysylltu fy nghyfrif. Mae'n golygu bod y cyfrif wedi'i ail-osod ac
> mae blynyddoedd o gysylltiadau wedi'u colli am byth.
>
> Felly:
>
> 1) Os cewch chi'r un drafferth, byddwch yn ofalus iawn.
>
> 2) Mae arna i eisiau LOT o gydymdeimlad.
>
> 3) Os ydych chi wedi anfon unrhyw negeseuon ataf a heb gael ateb eto, y
> tebygrwydd yw y byddant yn yr Inbox, yn aros sylw, ond ni fyddai'n ddrwg
> o beth eu hela nhw eto er mwyn bod yn sicr.
>
> Braidd yn ddigalon,
>
> Ann
|