Rhithfagad i chi, Ann - os mai dyna yw un o’r “virtual hugs” ‘ma sy’n hedfan o gwmpas dyddiau ‘ma.
Cyngor doeth iawn gan Megan, fel arfer.
Un peth - rwy’n sylwi mai dim ond “Ann” sy’n ymddangos ar frig eich neges erbyn hyn yn hytrach nag “Ann Corkett” fel o’r blaen. Efallai bod hyn yn fwriadol ond gallai fod yn ddryslyd.
Cofion atoch
Siân
> On 19 Jul 2017, at 19:57, megan tomos <[log in to unmask]> wrote:
>
> O, Ann, Druan.
>
> A oes posibilrwydd y bydd dy gyfraniadau gwerthfawr di a Bruce yn yr archif cyffredinol sydd gan Welsh Termau?
>
> Rydw innau wedi colli llawer o gysylltiadau dros y blynyddoedd.
>
> Bellach, rydw i'n gofyn y cwestiwn - pryd faswn i wedi cael y cyfle i ailymweld â llawer o'r ohebiaeth yma.
>
> Cwyd dy galon. Os nad oes perygl i dy identiti, gad inni obeithio bod llawer iawn o chwynnu wedi digwydd drosot ti.
>
> Mae cadw'r holl ohebiaeth yma yn bapur ac fel arall yn ein llethu.
>
> Cofion at y ddau ohonoch chi.
>
> Megan
> ----Original message----
> From : [log in to unmask]
> Date : 19/07/2017 - 19:26 (GMTDT)
> To : [log in to unmask]
> Subject : Apel Personol - Argyfwng Cyfrifiadurol
>
> Annwyl Bawb,
>
> 'Roedd gen i nifer FAWR o Ffolderi o ohebiaeth ar y cyfrifiadur, yn mynd
> yn ol blynyddoedd maith. 'Roeddent yn cynnwys, er enghraifft, ymhell
> dros ddeng mlynedd o ohebiaeth Welsh-Termau Cymraeg a gohebiaeth breifat
> ynghylch termau, gohebiaeth a chwsmeriaid gan gynnwys atebion i
> gwestiynau, materion yswiriant, gwyliau, personol ayb. Yr wythnos
> ddiwethaf, bum yn brysur yn tacluso nifer fawr o negeseuon o'r Inbox i'r
> ffolderi perthnasol.
>
> Dros y Sul, cefais "fyg" ar weinydd yr e-bost (Thunderbird) a gaeodd fy
> nghyfrif e-bost. 'Roedd y ffolderi i gyd wedi diflannu. Mae'n debyg,
> taswn i wedi mynd a'r cyfrifiadur i'r siop yn syth, byddai wedi bod modd
> i'w hachub, ond yn lle hynny, dilynais gyngor ar ryw wefan ynghylch sut
> i ail-gysylltu fy nghyfrif. Mae'n golygu bod y cyfrif wedi'i ail-osod ac
> mae blynyddoedd o gysylltiadau wedi'u colli am byth.
>
> Felly:
>
> 1) Os cewch chi'r un drafferth, byddwch yn ofalus iawn.
>
> 2) Mae arna i eisiau LOT o gydymdeimlad.
>
> 3) Os ydych chi wedi anfon unrhyw negeseuon ataf a heb gael ateb eto, y
> tebygrwydd yw y byddant yn yr Inbox, yn aros sylw, ond ni fyddai'n ddrwg
> o beth eu hela nhw eto er mwyn bod yn sicr.
>
> Braidd yn ddigalon,
>
> Ann
|