Yr ymadroddion sy gen i yw "genetic testing" a "genetic heart condition".
Mae trafodaeth wedi bod ar "genetic" o'r blaen. Ar 05 Mai 2000, dywedodd yr Athro Deri Tomos: "Yn fras, i mi mae "genetig" yn ymwneud a'r gwyddor Geneteg, tra bo genynnol yn ymwneud a'r gennynnau."
Felly ai "profion genetig" ac a fyddai'n well dweud "cyflwr etifeddol ar y galon" - "Inherited heart conditions, also known as genetic heart conditions or inherited cardiac conditions (ICC), are passed on through families." https://www.bhf.org.uk/heart-health/conditions/inherited-heart-conditions
Diolch
Siân
|