"Ribidirês, ribidirês, i mewn i'r arch â nhw."
Mwydyn clust am y diwrnod...
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 21 June 2017 11:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: I mewn, i fewn
"I mewn i'r gôl!" meddan ni yn Wrecsam. Mae "i fewn" yn edrych yn anghywir i mi, a fyswn i ddim yn ei sgwennu, er ella fy mod i'n ei ddeud o hefyd. Hmm.
Geraint
On 21/06/2017 11:19, Sian Roberts wrote:
> Dim ond “I mewn ag ef!” a gynigir yn GyrA am “In with it!”
>
> Mae “i fewn” yn swnio braidd yn ogleddol i mi - fydden ni ddim yn cynnwys yr “i” wrth siarad, dwi ddim yn meddwl - “mynd mewn” . Wrth Gwglo, mae GISDA (ardal Caernarfon) yn hysbysebu “Swydd cysgu i fewn”.
>
> Siân
>
>
>> On 21 Jun 2017, at 11:10, Bethan Mair <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Sori i ofyn cwestiwn amlwg, ond a yw un yn gywirach na'r llall?
>> Bethan
>>
>> Anfonwyd o fy iFfôn
>> Sent from my iPhone
> ---
> This email has been checked for viruses by AVG.
> http://www.avg.com
>
>
|