Ie! Rhagor 'to!!
Chwaneg eto fysa'r fersiwn gogleddol wrth gwrs.
Cytuno bod y ddau'n gywirach na 'mwy' yn y cyd-destun yma.
Geraint
On 07/06/2017 12:41, Claire Richards wrote:
> "rhagor 'to" oedd y gri yn nyddiau Bois Ffostrasol ac Edward H, os cofiaf yn iawn.
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 07 June 2017 09:55
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: More info at [website]
>
> Ie, yn ôl PWT, 'Mewn cymariaethau neu pan fydd elfen o gymhariaeth yn ymhliyg fe ddefnyddir “mwy” yn hytrach na “rhagor’ neu ‘ychwaneg” e.e. “Mae mwy yma eleni (na’r llynedd)…”
> “Rhagor” neu ‘ychwaneg” a ddefnyddir pan gyfeirir at ychwanegu mesur at fesur arall e.e. “A garech chi ragor o de?" "Mae rhagor i ddod.” ‘
>
> Dwi’n meddwl fod tuedd i ddefnyddio “mwy” yn lle “rhagor” yn y gogledd.
>
> Ro’n i bob amser yn ei weld yn od bod pobl yn gweiddi “Mwy” ar ddiwedd gig slawer dydd. “Rhagor” fyddwn i’n ddisgwyl!
>
> Siân
>
>
>
>
>> On 7 Jun 2017, at 09:40, Sioned Fidler <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Cytuno Sian, dwi wastad wedi cael fy nysgu mai rhagor sy'n gywir a bod mwy yn anghywir gan ei fod yn golygu 'bigger'.
>
> ---
> This email has been checked for viruses by AVG.
> http://www.avg.com
|