Ie, yn ôl PWT, 'Mewn cymariaethau neu pan fydd elfen o gymhariaeth yn ymhliyg fe ddefnyddir “mwy” yn hytrach na “rhagor’ neu ‘ychwaneg” e.e. “Mae mwy yma eleni (na’r llynedd)…”
“Rhagor” neu ‘ychwaneg” a ddefnyddir pan gyfeirir at ychwanegu mesur at fesur arall e.e. “A garech chi ragor o de?" "Mae rhagor i ddod.” ‘
Dwi’n meddwl fod tuedd i ddefnyddio “mwy” yn lle “rhagor” yn y gogledd.
Ro’n i bob amser yn ei weld yn od bod pobl yn gweiddi “Mwy” ar ddiwedd gig slawer dydd. “Rhagor” fyddwn i’n ddisgwyl!
Siân
> On 7 Jun 2017, at 09:40, Sioned Fidler <[log in to unmask]> wrote:
>
> Cytuno Sian, dwi wastad wedi cael fy nysgu mai rhagor sy'n gywir a bod mwy yn anghywir gan ei fod yn golygu 'bigger'.
|