On Apr 27, 2017, Mary Jones wrote:
> Dydw i'n deall dim am apps na dim byd technegol felly, ond mae'n
> siwr bod cytundeb ar y sillafiad yn Gymraeg. Ai 'ap / apiau' ynte
> 'app /appiau'? Rwy'n gweld anhawster 'ap' oherwydd ei ddefnyddio
> mewn enwau personol, ond mae dwy 'pp' yn amhosibl yn orgraff Cymraeg
> diweddar, ydy e? Diolch am unrhyw oleuni.
Mae yna dueddiad gan lawer i ddefnyddio priflythyren - Ap/Apiau
er mwyn osgoi amwysedd, er mae hynny'n wir yn y saesneg hefyd i raddau.
Ond mae un p yn safonol.
|