"Achi" oedd o gynnon ni ond dwi'n siwr y byddai "pw" yn ddealladwy i bawb erbyn hyn.
Geraint
Anfonwyd o fy ffôn-i
> On 4 Ebrill 2017, at 09:31, Cyfri Dot <[log in to unmask]> wrote:
>
> Pŵs oedden ni'n ddweud!!
>
> Catrin
>
> Anfonwyd ar fy ffôn iDot
>
>> On 4 Ebrill 2017, at 10:27, megan tomos <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Byddai'n ddiarth i rai o 'nghenedlaeth i ac wedi'r cwbl y genhedlaeth honno sydd yn cael ei sgrinio!
>>
>> Mae hwn yn faes anodd. Mi wn am ddoctoriaid yn pechu yn erbyn pobl am ofyn a oeddent wedi cachu gan ddisgwyl iddynt ofyn a ydych wedi pasio'ch corff. Clywais yn ddiweddar am glaf nad oedd ganddo affliw o syniad beth a olygid pan ofynnwyd iddo am ei bowel movement.
>>
>> Gwneud ach oedd y ferf ac ach nid pw fyddai'r enw naturiol i mi.
>>
>> Am drafodaeth amser brecwast ond efallai nid amherthnasol ychwaith. Yr iach a gach y bore a'r afiach a gach yr hwyr yn ôl yr hen ddihareb!
>>
>> Megan
>>
>>
>> ----Original message----
>> From : [log in to unmask]
>> Date : 04/04/2017 - 08:18 (GMTDT)
>> To : [log in to unmask]
>> Subject : Re: poo
>>
>> Diolch Sian - mae hynny'n rhoi tawelwch meddwl i mi. Cyd-destun yw popeth yn de? Anodd taro cydbwysedd weithiau rhwng gwneud testun yn hawdd ei ddarllen ac osgoi bod yn nawddoglyd neu ddefnyddio rhywbeth ansafonol a chael dy feirniadu!
>> Rhian
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>> Sent: 04 April 2017 08:14
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: poo
>>
>> Dw i'n meddwl bod 'pw' yn ddealladwy ac yn dderbyniol yn y cyd-destun hwn.
>> Mae yn GPC.
>>
>> Siân
>>
>>> On 4 Apr 2017, at 08:05, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Bore Da
>>> Ymddiheuriadau os ydych newydd gael eich brecwast.
>>> Dwi'n cyfieithu taflen ar sgrinio'r coluddion ac mae'r gair 'poo' yn cael ei ddefnyddio yn y Saesneg e.e. collect a sampl of your poo. Tydi 'poo' ddim yng Ngheiriadur yr Academi hyd y gwela i. Fyddai 'pw' yn dderbyniol (o gofio bod angen i'r daflen fod yn hawdd ei deall)?
>>>
>>> Diolch ymlaen llaw
>>> Rhian
|