Edrychais i ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n weddol am gyhoeddi pethau yn Gymraeg.
Des i o hyd i ddogfen o'r enw "Religion or belief: a guide to the law", a ynddi dywedir " ‘Religion or belief: a guide to the law’ provides an overview of the protections offered by
the Equality Act 2010 and the Human Rights Act 1998 of people with or without a religion or belief". Yn anffodus, yn y fersiwn Gymraeg dywedir " Mae ‘Crefydd neu gred: canllaw i’r gyfraith’ yn cynnig cipolwg o’r diogelwch a gynigir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998 ar gyfer pobl sydd heb grefydd neu gred". Wps!
Alla i ddim cael hyd i unrhyw enghraifft arall o'r ymadrodd ar wefan y Comisiwn lle mae cyfieithiad Cymraeg.
Does dim byd amlwg ar y we mewn mannau eraill, chwaith.
"pobl sydd â chrefydd neu gred neu heb grefydd neu gred"?
Neu ydi hynny'n rhy glogyrnaidd?
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirlys Williams
Sent: 13 March 2017 22:15
To: [log in to unmask]
Subject: People with or without a religion or belief
Ymadrodd sy'n codi yng nghyd-destun cydraddoldeb - ansicr sut fyddech chi'n geirio "with our without". Oes yna rywun wedi dod o hyd i ffordd dwt o fynegi hyn?
|