Heddiw cefais y neges isod, gan rywun sy'n methu cyfrannu at y
drafodaeth gan nad yw hi'n aelod o'r grwp. Mae gen i ei chaniatad i'w
hanfon ymlaen. Mae'n ychwanegu "Un o Landyrnog ger Dinbych yw Bryn.
Falle mai ffrwyth ei ddychymyg e yw'r dywediad, cofiwch, synnwn i ddim!"
Diolch iddi, beth bynnag!
Ann
"Rwy newydd fod yn darllen y sgwrs am y nionod. Mae gan fy ngwr
ddywediad lled debyg wrth sôn am ambell deulu: maen nhw fel jar o nionod
picl - rwyt ti'n cyffwrdd ag un ac mae'r cwbl lot yn symud!
"Anwen Davies"
|