Mi faswn i'n cytuno efo chi - DIY yn iawn. Pawb yn deall hwnnw fel JCB.
JCB - Jac codi baw!!
Gawn ni feddwl am rywbeth am DIY rywbryd pan fydd gynnon ni amser!!
Megan
Sent from my iPhone
> On 22 Feb 2017, at 12:30, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>
> Fyse tasgau’r cartref yn gallu golygu golchi llestri - “neud y dwt” ys dywedai cymydog i ni slawer dydd.
>
> Dwi’n meddwl bod DIY yn dderbyniol yn Gymraeg neu fyse rhywun yn gallu dweud “mân waith trwsio” neu rywbeth yn dibynnu ar y cyd-destun
>
> Siân
>
>
>> On 22 Feb 2017, at 11:26, Huw Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Tasgau'r cartref?
>>
>>
>> [Geiriadur yr Academi]
>>
>> do-it-yourself a.
>> [-]
>> eich gwaith eich hun,
>> heb gymorth neb arall
>>
>> he was in a do-it-yourself boat
>> 'roedd mewn cwch o waith ei ddwylo'i hun,
>> 'roedd mewn bad o waith ei ddwylo'i hun,
>> 'roedd mewn cwch a wnaeth ef ei hun,
>> 'roedd mewn bad a wnaeth ef ei hun
>>
>> a do-it-yourself shop
>> siop tasgau'r cartref,
>> siop crefftau'r cartref,
>> siop y crefftwr cartref
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
>> Sent: 22 Chwefror 2017 11:04
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Deinosoriaid
>>
>> DIY - OES RHYWBETH SAFONOL AM DIY?
>> ----Original message----
>> From : [log in to unmask]
>> Date : 21/02/2017 - 09:23 (GMTST)
>> To : [log in to unmask]
>> Subject : Re: Deinosoriaid
>>
>> Tro - odon yw ynganiad yr ail, felly byddai'n well cadw'r sillafiad Troodon.
>>
>> "Triceratops" gydag c mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn ei ddefnyddio, a "deinosoriaid". O ddilyn hwnnw, "maiasora" a "deinosoriaid ceratopsaidd", mae'n debyg.
>>
>> Methu helpu gyda'r lleill, mae'n ddrwg gen i.
>>
>> Claire
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>> Sent: 20 February 2017 23:41
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Deinosoriaid
>>
>> Rwy’n gweithio ar ddarn yn ymwneud â deinosoriaid. Tybed a all rhywun helpu â rhai o’r termau?
>>
>> Maiasaura Maiasora ?
>> Troodon Trwdon ?
>> Ceratopsian dinosaurs Deinosoriaid ceratopsaidd / Deinosoriaid seratopsaidd ?
>> Oviraptors Ofiraptor ?
>> Protoceratops Protoceratops / Protoseratops ?
>> Psittacosaurus Sitacosorws ?
>> frill coler ?
>>
>> Yixian Formation Ffurfiant Yicsaidd ?
>>
>> Diolch ymlaen llaw
>>
>> Siân
|