Fyse tasgau’r cartref yn gallu golygu golchi llestri - “neud y dwt” ys dywedai cymydog i ni slawer dydd.
Dwi’n meddwl bod DIY yn dderbyniol yn Gymraeg neu fyse rhywun yn gallu dweud “mân waith trwsio” neu rywbeth yn dibynnu ar y cyd-destun
Siân
> On 22 Feb 2017, at 11:26, Huw Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>
> Tasgau'r cartref?
>
>
> [Geiriadur yr Academi]
>
> do-it-yourself a.
> [-]
> eich gwaith eich hun,
> heb gymorth neb arall
>
> he was in a do-it-yourself boat
> 'roedd mewn cwch o waith ei ddwylo'i hun,
> 'roedd mewn bad o waith ei ddwylo'i hun,
> 'roedd mewn cwch a wnaeth ef ei hun,
> 'roedd mewn bad a wnaeth ef ei hun
>
> a do-it-yourself shop
> siop tasgau'r cartref,
> siop crefftau'r cartref,
> siop y crefftwr cartref
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
> Sent: 22 Chwefror 2017 11:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Deinosoriaid
>
> DIY - OES RHYWBETH SAFONOL AM DIY?
> ----Original message----
> From : [log in to unmask]
> Date : 21/02/2017 - 09:23 (GMTST)
> To : [log in to unmask]
> Subject : Re: Deinosoriaid
>
> Tro - odon yw ynganiad yr ail, felly byddai'n well cadw'r sillafiad Troodon.
>
> "Triceratops" gydag c mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn ei ddefnyddio, a "deinosoriaid". O ddilyn hwnnw, "maiasora" a "deinosoriaid ceratopsaidd", mae'n debyg.
>
> Methu helpu gyda'r lleill, mae'n ddrwg gen i.
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 20 February 2017 23:41
> To: [log in to unmask]
> Subject: Deinosoriaid
>
> Rwy’n gweithio ar ddarn yn ymwneud â deinosoriaid. Tybed a all rhywun helpu â rhai o’r termau?
>
> Maiasaura Maiasora ?
> Troodon Trwdon ?
> Ceratopsian dinosaurs Deinosoriaid ceratopsaidd / Deinosoriaid seratopsaidd ?
> Oviraptors Ofiraptor ?
> Protoceratops Protoceratops / Protoseratops ?
> Psittacosaurus Sitacosorws ?
> frill coler ?
>
> Yixian Formation Ffurfiant Yicsaidd ?
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> Siân
|