Gair Lladin diweddar iawn - rhan olaf y 18fed ganrif.
Dwi wedi edrych beth a geir mewn ieithoedd eraill, ac yn aml defnyddir cyfuniad o eiriau neu air cyfansawdd ag elfen sy'n golygu pethau, yn fras (e.e. objets, Stücke), felly os nad yw lle yn brin, mae 'pethau i gofio' yn gweithio'n dda, dwi'n meddwl.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 09 February 2017 11:17
To: [log in to unmask]
Subject: memorabilia
Mae GyA yn rhoi "pethau cofiadwy" am "memorabilia", ond nid dyna ydyn nhw o gwbl, nage? Mân bethau fel tocynnau, posteri etc sy'n procio'r cof am ddigwyddiadau neu adegau cofiadwy. Dydi'r pethau eu hunain ddim yn gofiadwy o gwbl. "Pethau i gofio" ella? Neu ei adael fel "memorabilia"?
Gair Lladin ydio, wedi'r cwbwl.
|