Annwyl Meinir,
Diolch am eich ateb (yn anffodus, nid oedd yn ymddangos ar yr iPhone,
felly ni welais i mohoni'n gynharach).
Gobeithio'ch bod chi wedi cael goleuni o rai o'r gwefannau ynghylch
cyffuriau a awgrymwyd - neu hyd yn oed wedi llwyddo i gysylltu a
siaradwr Cymraeg yn un o'r mudiadau. Y drafferth yw, i mi, nad oes
eisiau dyfeisio termau newydd a rhoi'r argraff eu bod eisoes yn cael eu
defnyddio. Dadl Bruce yw y dylid darparu termau i'w defnyddio yn y
dyfodol, gystal ag y gallwn, ond mae hynny'n wahanol. Mae'n eitha posibl
hefyd, os OES termau Cymraeg, eu bod nhw'n dermau hollol wahanol - er fy
mod i'n amau ddyddiau hyn mai rhyw fath o gyfieithadau y bydden nhw.
O ran y rhestr yn eich neges isod, ni welaf yn bersonol y dylech *greu*
llysenwau Cymraeg newydd nad ydynt eisoes ar lafar. A ydy'r eglurhad yn
dilyn pob un? Caf yr argraff bod *rhai* termau'n *enwau* ac eraill yn
*ddisgrifiadau*, a 'does dim byd i'ch rhwystro rhag cyfieithu'r
disgrifiadau. Ydy rhai o'r termau'n wahanol enwau ar yr un peth? Er
enghraifft, sylwaf fod "smoke" a "joint" yno ill dau, er fod Geiriadur
yr Academi yn dweud: "joint(=marijuana cigarette):smôcmf (smôcs)".
Efallai cewch chi dermau Cymraeg newydd gan rai o'r asiantaethau y
soniodd eraill amdanynt. Os felly, byddai'n werth gofyn i'r cyflogwr sut
i'w cynnwys.
Taswn i'n cyfieithu'r rhestr, byddwn i'n rhoi *enwau* Saesneg yn
Saesneg, "disgrifiadau* yn Gymraeg, ac efallai, rhywbeth fel "smoke
(smo^c)" lle gallwch ddod o hyd i enw cyfatebol Cymraeg. Wedi'r cyfan,
yn Saesneg bydd llawer o Gymry ifainc yn clywed cyfeirio at y cyffuriau
hyn. Ond barn bersonol yw hyn.
O ran y rhestr a gefais gennych ddoe, amgaeaf ffeil, i ddangos yr
wybodaeth yr oeddwn i wedi'i hel o'r We ar gyfer Bruce, a'r awgrymiadau
a oedd ganddo fo.
Pob lwc ichi!
Ann
On 19/01/2017 07:15, Meinir Thomas wrote:
> Helo Anne,
>
> Diolch yn fawr am eich neges. Yn anffodus, does gen i ddim llawer o gyd-destun. Cyflwyniad PowerPoint sydd gen i ar gyfer cwrs troseddwyr cyffuriau. Rhywun yn yr heddlu sydd wedi anfon y cyflwyniad ata i, ond nid rhywun yn yr heddlu sydd wedi creu'r PowerPoint. Mae lluniau o'r cyffuriau ar y sleidiau, gyda'r enwau (oil, purple haze ayyb) wrth eu hochr. Scuff sydd yn y cyflwyniad, nid skuff.
>
> Ar sleid arall, mae'r rhestr ganlynol o dan y pennawd 'Language and Terms':
>
> Weed
> Dope
> Smoke
> Green
> Grass
> Hash
> Rocky
> Block
> Solid
> Bud
> Leaf
> Resin
> Pollen
> Oil
> Squidgy
> Skunk
> Pot
> Herb
> Draw
> Ganja
> Hashish
> Sensi
> Puff
> Bhang
> Spliff
> Joint
> Bong
> Pipe
> Bucket
> Shotty
> Doobie
> Reefer
>
>
>
>
>
>
>
> Does dim brys mawr am y gwaith - 7 Chwefror.
>
> Cofion gorau,
>
> Meinir
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2016.0.7998 / Virus Database: 4749/13797 - Release Date: 01/18/17
>
>
>
|