Meddai Tim:
> Problem hollol wahanol sydd gyda fi, sef na fyddaf byth yn gweld fy negeseuon fy hun!
Mae'r un peth yn digwydd i mi os byddaf yn ymateb yn uniongyrchol drwy e-bost i'r fersiwn e-bost o neges a dderbyniwyd.
Mae'n well, felly, ddefnyddio'r dudalen 'Send Message (WELSH-TERMAU-CYMRAEG)' ar wefan JISCM@ail os am dderbyn copi o'r neges — ond rhaid cofio ticio'r blwch bach 'Send copy of message to: [eich cyfeiriad e-bost]' yng nghornel dde isaf y dudalen.
Wyn
|