Dwi ddim yn gallu ffeindio dim ar y wê. Roedd is-ganserau yn gwneud synnwyr i mi am 'secondaries' a dyna pryd ddechreuodd y dryswch am y 'secondary cancer'. Haws ei ddeall nag 'eilaidd'??
Catrin
Anfonwyd ar fy ffôn iDot
> On 2 Rhag 2016, at 12:03, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>
> Do mi wnaeth o ymddangos y tro cynta Catrin! Mond bod neb wedi trafferthu ateb! (wel ma'i'n ddydd Gwener!)
>
> Canser eilaidd y fron fyswn i'n meddwl - y canser sy'n eilaidd ac nid y fron.
>
> Ond ella bod is-ganser y fron yn well, mae'n llai o lond ceg beth bynnag.
>
> Geraint
>
>> On 02/12/2016 11:15, Cyfri Dot wrote:
>> Anfonais y neges gan roi Secondary Breast Cancer fel teitl, ond dwi ddim yn meddwl ei bod wedi ymddangos, felly dyma drïo eto efo'r ail gwestiwn yn deitl.
>>
>> Canser y Fron Eilaidd neu Canser Eilaidd y Fron?
>>
>> Ac er nad yw'r term yn y darn, beth fyddai secondaries? Is-ganserau tybed?
>>
>> Os felly, beth am is-ganser y fron?
>>
>> Awgrymiadau/sylwadau plis.
>>
>> Diolch
>> Catrin
>>
>> Anfonwyd ar fy ffôn iDot
|