Do, nes i edrych ar y drafodaeth, ond dal wedi drysu! Mae enghreifftiau o'r ddau ar y we, ac ar wefan Pride Cymru, Balchder Cymru sydd, ond, maen nhw'n defnyddio Google Translate ar gyfer y wefan! Ar ôl ymchwilio ymhellach, gwelais fod grŵp gwleidyddol o'r enw Balchder Cymru (Pride Of Wales), a gan bod digon o enghreifftiau o Pride Cymru ar y we gan sefydliadau megis Stonewall a'r Cynlluniad (er fy mod i wedi gweld enghreifftiau gan y Cynlluniad o Balchder Cymru hefyd), wi'n credu mai defnyddio Pride Cymru fyddai orau, er waethaf fy ngreddf naturiol i ddefnyddio Balchder Cymru.
Meinir
|