Dwi wrthi'n cyfieithu posteri ar dwyll bwyd, ac yn styc gyda dau bennawd:
MUTTON DRESSED AS LAMB – poster am droseddwyr sy'n amnewid cig am fath rhatach o gig, gan dwyllo cwsmeriaid. Gweithio mor dda yn Saesneg, ond dwi methu'n lân a meddwl am rywbeth yr un mor glyfar yn Gymraeg!
CUT THE MUSTARD – poster am droseddwyr sy'n amnewid cynhwysion am gynhwysion eraill, rhatach, heb nodi hynny. Mae'r cynhyrchion hyn yn gallu bod yn beryglus iawn i rywun sydd ag alergedd (a mwstard yw un o'r prif fwydydd sy'n achosi alergeddau).
Byddai unrhyw syniadau o help mawr!
Diolch
|