A fyddai geiriau gwledydd eraill Saesneg eu hiaith yn awgrymu rhywbeth?
UDA - countertop, counter top, counter, benchtop
Awstralia - kitchen bench
(Defnyddir 'bwrdd gwaith' am 'desktop' ym maes TGCh.)
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 28 October 2016 14:16
To: [log in to unmask]
Subject: worktop (mewn cegin)
Dyma gwestiwn ychydig yn debyg i'r un am "baking trays", ond un a gododd ddoe ar wahan i hwnnw.
Mae'r term uchod bob amser yn fy stopio i'n stond pan fyddaf yn ceisio cyfeirio Bruce at rywbeth yn y gegin. Gwelais "astell waith" ddoe mewn hen lyfr i blant, ond nid yw Bruce yn hoffi "astell". Mae o'n awgrymu "bwrdd gwaith", ond mi all hynny olygu bwrdd y gegin. Mae GyrA yn cynnig "man gwaith" ar gyfer "work surface" - mae Bruce yn gweld hynny'n rhy benagored ac yn cynnig "bord gwaith".
O feddwl am y cyd-destunau, maent yn amrywio o "Mae'r siwgr ar y work-top i'r chwith o'r sinc"; "mae angen glanhau'r worktop(s)"; i "'rydym yn mynd i gael worktops newydd / marmor yn y gegin". A oes 'na un cynnig sy'n ffitio popeth, ynteu a oes angen dod o hyd i ddull newydd o'i ddweud bob amser yn ol y cyd-destun?
Ann
|