Dyma gwestiwn ychydig yn debyg i'r un am "baking trays", ond un a gododd
ddoe ar wahan i hwnnw.
Mae'r term uchod bob amser yn fy stopio i'n stond pan fyddaf yn ceisio
cyfeirio Bruce at rywbeth yn y gegin. Gwelais "astell waith" ddoe mewn
hen lyfr i blant, ond nid yw Bruce yn hoffi "astell". Mae o'n awgrymu
"bwrdd gwaith", ond mi all hynny olygu bwrdd y gegin. Mae GyrA yn cynnig
"man gwaith" ar gyfer "work surface" - mae Bruce yn gweld hynny'n rhy
benagored ac yn cynnig "bord gwaith".
O feddwl am y cyd-destunau, maent yn amrywio o "Mae'r siwgr ar y
work-top i'r chwith o'r sinc"; "mae angen glanhau'r worktop(s)"; i
"'rydym yn mynd i gael worktops newydd / marmor yn y gegin". A oes 'na
un cynnig sy'n ffitio popeth, ynteu a oes angen dod o hyd i ddull newydd
o'i ddweud bob amser yn ol y cyd-destun?
Ann
|