Beicio mynydd yw'r cyd-destun. Dwi wedi bod yn pori trwy'r archifau ond yn methu gweld unrhyw beth penodol, a dydi o ddim i'w weld yn Termau Awyr Agored. Mae gen i "uplift assisted mountain biking centre" ynghyd ag "uplift" ar ei ben ei hun.
Unrhyw un wedi cyfieithu hyn? Dydw i ddim hyd yn oed yn sicr be ydi o! Mae gwglo yn dod â llawer o enghreifftiau o lle mae modd cael gwasanaeth o'r fath, ond fedra i ddim cael hyd i ddisgrifiad ohono!
Diolch am unrhyw help.
Sioned
|