Dyna'n union ro'n i'n meddwl hefyd Anna Eluned.
Meinir
Mae hwyl i'w gael wrth gyfieithu weithiau - hoffi'r geiniog!
Os ydych chi'n ychwanegu'r gair gorsaf at enw'r orsaf, wrth gyfieithu Cardiff Central Station mae Gorsaf Caerdydd Canolog yn swnio'n fwy synhwyrol. Ond os cyfieithwch chi London Paddington Station, pa un sy'n swnio'n fwy synhwryrol, Gorsaf Paddington Llundain ynte Gorsaf Llundain Paddington?
2016-09-01 9:57 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
Mae hynny'n gneud mwy o sens o ran eglurder a chyflymdra dallt. Dyna fydd hi ta.
Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
2016-09-01 10:54 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:
O ran patrwm, enw’r ddinas ac wedyn enw’r orsaf benodol yw’r arfer.
Caerdydd Canolog
Caerdydd Heol y Frenhines
Wrecsam Cyffredinol
Wrecsam Canolog
Manceinion Piccadilly
Manceinion Oxford Road
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 September 2016 09:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: London Paddington
Ar hyn o bryd y sgor ydi Paddington Llundain - 2, Llundain Paddington - 2. Oes rhagor am gynnig, ta'r geiniog pia hi? Beth bynnag benderfyna'r geiniog, mi ddilynna i'r un patrwm efo Bristol Temple Meads.
Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
2016-09-01 10:44 GMT+02:00 Meinir Thomas <[log in to unmask]>:
Ro'n i arfer teithio'n aml i Lundain o Gaerfyrddin tan yn weddol diweddar (a dal yn defnyddio'r trên hwnnw ychydig o weithiau'r flwyddyn, yn ogystal â'r trên o Gaerfyrddin i Fanceinion), a Paddington Llundain sy'n cael ei gyhoeddi yn yr orsaf yng Nghaerfyrddin.
Meinir
|