Bore da bawb,
Tybed a oes gan rywun gyfieithiad bachog ar gyfer grŵp trafod o'r enw 'Clued Up!"? Grŵp trafod ydyw i helpu'r rhai sy'n dioddef o orbryder, diffyg hyder a hunan-barch, straen, ac ofn sefyllfaoedd cyhoeddus. Bydd cyfle i aelodau'r grŵp rannu eu stori gydag eraill, cael cymorth gan hyfforddwr bywyd cymwys, a chael dishgled.
Ar hyn o bryd, yr unig beth sydd gen i yw "Ar Ben Ffordd".
Diolch ymlaen llaw am unrhyw awgrymiadau.
Cofion,
Meinir
|