Wedi dweud hynny, mae'n edrych yn debyg mai 'noddwr' mae elusennau'n ei ddefnyddio.
Yn y Bywgraffiadur Cymreig ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol, dywed yr erthygl am ID Hooson yn Saesneg "He was a patron of Urdd Gobaith Cymru..." ac yn Gymraeg "Bu'n noddwr i Urdd Gobaith Cymru..." http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-HOOS-DAN-1880.html
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 26 September 2016 09:46
To: [log in to unmask]
Subject: patron
Beth, tybed, yw'r gair Cymraeg gorau am "patron" yn yr ystyr "a distinguished person who takes an honorary position in a charity"?
Geiriau i fynd ar blac: I gydnabod ei wasanaeth neilltuol i'r clwb am dros drigain mlynedd, rydym yn penodi Huw Huws yn ??? Clwb Marblis Cwm-sgwt.
Dyw "noddwr" ddim yn gweithio, nag'di?
Diolch
Siân
|