Maen nhw wedi newid enw'r swydd hon o 'physician assistant' i 'physician associate' yn ddiweddar, mae'n debyg oherwydd nad yw'r swydd yn cynorthwyo meddygon yn uniongyrchol. Y tebygrwydd yw y bydd yr enw newydd yn parhau am fod yna gyfadran 'physician associates' o fewn Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ers y llynedd.
Defnyddir 'cysylltai ymchwil' am 'research associate', felly beth am 'cysylltai meddygol'?
Dafydd
On Mon, 8 Aug 2016 15:44:50 +0100, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:
>Cymhorthydd Meddyg? Cynorthwyydd Meddyg?
>
>Wedi'r cwbl, dyna beth maent yn ei wneud, rhoi cymorth i'r meddyg fel y
>gall honno/hwnnw ddelio gyda phethau pwysicach gan adael y pethau arferol
>i'r Cymhorthydd. (rwy'n ffafrio cymhorydd gan nad yw'r gair mor gyffredin
>a cynorthwyydd ac felly byddai'n bosibl ei ddefnyddio fel term technegol (o
>bosibl?)
>
>Muiris
>
>
>
>2016-08-08 15:24 GMT+01:00 Sylvia Prys Jones <[log in to unmask]>:
>
>> Term newydd ar gyfer swyddogaeth newydd, a dyma un diffiniad o’r we.
>>
>>
>>
>> Physician Associates support doctors in the diagnosis and management of
>> patients. They are trained to perform a number of roles including: taking
>> medical histories, performing examinations, analysing test results, and
>> diagnosing illnesses under the direct supervision of a doctor.
>>
>>
>>
>> Mae’n debyg ei bod yn bosib dilyn cwrs hyfforddiant ôl-raddedig erbyn
>> hyn, ar ôl gwneud gradd mewn maes gwyddonol perthnasol. Mae’n rhywbeth
>> eithaf newydd, a dw i ddim wedi medru dod o hyd i derm Cymraeg ar y we.
>>
>>
>>
>> Byddwn yn falch o glywed gan gyfieithwyr ym maes iechyd sydd wedi dod ar
>> draws y term hwn eisoes.
>>
>>
>>
>> Diolch yn fawr!
>>
>>
>>
>> Sylvia.
>>
>>
>>
>> Dr Sylvia Prys Jones
>>
>> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
>>
>> Canolfan Bedwyr
>>
>> Prifysgol Bangor
>>
>> Ffôn: 01248382036
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>> *Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565*
>>
>> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
>> deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
>> cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
>> trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os
>> na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw
>> neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
>> safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
>> cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod
>> y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn
>> ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr
>> e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae
>> rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
>>
>> This email and any attachments may contain confidential material and is
>> solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
>> email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
>> If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
>> disclose any information contained in this email. Any views or opinions are
>> solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor
>> University. Bangor University does not guarantee that this email or any
>> attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated
>> in the body of the text of the email, this email is not intended to form a
>> binding contract - a list of authorised signatories is available from the
>> Bangor University Finance Office.
>>
>
|