Wela i ddim byd o'i le ar ddefnyddio cymylau o robin sbonc/sioncyn y gwair/
ceiliog rhedyn. Dwi bron yn siwr mod i wedi clywed cyfeiriad at gymylau o
locustiaid a'r un math o rywogaeth ydyn nhw.
Dyma rhestr o enwau torfol y diweddar Athro Gwyn Thomas rhag ofn y byd yn
ddefnyddiol i chi.
RHAI SY’N BOD YN BAROD
Haid o gŵn
Gyrr o wartheg
Gre o geffylau
Diadell o ddefaid
Praidd o ddefaid
Buches o wartheg
Cenfaint o foch
Haig o bysgod
AWGRYMIADAU
Tawelwch o löynnod
Clegar o wyddau
Senedd o asynnod
Cytiad o ieir
Cecian o biod
Slefriad o nadroedd
Calchiadau o wylanod
Pardduaid o jacdoeau
Brenhiniaeth o eryrod
Twnelaid o foch daear
Gwynfyd o elyrch
Hetiad o sguthanod
Slachtar o gigfrain (O’r Saesneg slaughter y daw hwn)
Prysurdeb o forgrug
Cymanfa o gathod
Cyfrinfa o lwynogod
Llysnafeddiad o falwod
Cawodydd o ddrudwy
Gormes o eliffantod
Sgrech o fwncwn
Peiloniad o jiraffs
Llinellau o deigrod
Jersi o sebras
Esgobaeth o bengwyniaid
Smiciadau o lygod
Tuniad o sardîns
Sglein o frithyll
Hwtiad o dylluanod
Llanast o golomennod
Cofion
Bethan
[log in to unmask]
Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF
Blog: http://bydnaturbethan.blogspot.co.uk
Trydar: @BethanWynJones1
-----Original Message-----
From: Branwen Gwyn
Sent: Thursday, August 25, 2016 6:24 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: flush - enwau torfol am adar ac anifeiliaid
Oes gan rywun enw torfol gwell am geiliogod rhedyn / sioncod y gwair na
'haid'? Dyna'r canllaw yn Gramadeg y Gymraeg. 'A cloud of grasshoppers'
ydy'r term Saesneg.
|