On Aug 25, 2016, Dafydd Timothy wrote:
> Pnawn da!
>
> Be yn union ydy 'true calendar date'... (yng nghyd-destun polisi yswiriant)
>
> e.e.
>
> *correctly recognise any date as its true calendar date*
Dwi'n cynnal gwefan ar gyfer cwmni brocer yswiriant a does dim yr
union derm yna ond mae iaith tebyg ar gyfer gwarchod rhag dyddiadau
sy'n amwys e.e. - ydi 01/08/2016 yn 1 Awst neu 8 Ionawr
Ydi 01/08/90 yn 1990 neu 2090?
(Mae'n debyg fod dryswch gwall 2000 yn golygu fod cymalau fel hyn wedi ei
ysgrifennu mewn i amodau'r cytundeb).
Ar wefan mae yna ddulliau technegol o osgoi'r dryswch ond mae'n dal
rhaid gwarchod yn erbyn gwallau.
Gwir ddyddiad calendr felly? Hynny yw, y dyddiad a fwriadwyd yn
hytrach na dehongliad unrhyw system neu unigolyn o'r dyddiad.
|