Dwi'n meddwl y baswn i'n tueddu tuag at "Canllawiau + berfenw" heb arddodiad o gwbl.
Geraint
Anfonwyd o fy ffôn-i
> On 19 Aug 2016, at 16:53, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>
> Dwi'n darllen proflenni ac mae'r gwreiddiol yn dweud "Canllaw ar + berfenw". Dwi'n gweld bod hyn yn eithaf cyffredin ond mae'n swnio'n chwithig i mi. Mae'n well gen i "Canllaw i + berfenw". Oes digon o sail dros ei newid?
>
> Diolch
>
> Siân
|