Dyw'r ffynonellau arferol ddim llawer o help!
Mae TermCymru'n rhoi 'nwyddau traul' am 'consumer goods' ac mae'r Porth Termau'n rhoi 'nwyddau sy'n para' am 'durable goods'.
A dweud y gwir, dwi ddim yn gweld y rheswm dros 'nwyddau traul', gan mai 'goods bought by consumers' (hynny yw, yn hytrach na chan cynhyrchwyr i'w defnyddio yn eu prosesau cynhyrchu) yw diffiniad 'consumer goods' - pam ydyn nhw'n bethau sy'n treulio yn hytrach na pethau sy'n para?
Mae canllaw athrawon CBAC i gwrs Astudiaethau Busnes TGAU yn defnyddio 'nwyddau defnyddwyr' am 'consumer goods' a 'nwyddau sy'n para' am durable.
Beth am 'nwyddau defnyddwyr sy'n para'? Gan dybio y bydd pobl yn deall mai'r nwyddau ac nid y defnyddwyr sy'n para!
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 18 August 2016 13:24
To: [log in to unmask]
Subject: Consumer Durables
Prynhawn da,
Tybed a oes unrhyw un wedi dod ar draws "consumer durables" o'r blaen?
Dyma'r diffiniad: manufactured items, typically cars or household appliances, that are expected to have a relatively long useful life after purchase.
Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth.
Cofion gorau,
Meinir
|