Ymddiheuriadau - dim holi am derm ydw i ond gramadeg. Fedr rhywun helpu plîs? Dwi'n mynd rownd a rownd yn fama!
Mae gen i enwau ystafelloedd i'w cyfieithu - photocopier room, meeting room ac ati. Ar ôl rhoi Ystafell Gyfarfod, mi roddais Ystafell Llungopïwr wedyn. Mae'n teimlo'n iawn treiglo Cyfarfod ond ddim Llungopïwr - be ydi'r rheol? Dwi'n gwybod mod i fod i wybod hyn, ond dwi'n teimlo'n dwp iawn pnawn ma.
Diolch am unrhyw arweiniad gan rywun doeth a chall.
Sioned
|