Mae o yn yr archifau, Ann, a chafodd "treillio pyllau" ei grybwyll bryd
hynny (Ionawr 2003)
On 05/04/2016 14:02, Ann Corkett wrote:
> 'Rwyf wedi bod yn gyndyn i ofyn hyn, gan fy mod i'n teimlo imi ei
> weld o'r blaen ac, a dweud y gwir, 'rwy'n teimlo fy mod innau wedi'i
> gyfieithu o'r blaen, ond 'rwy'n methu dod o hyd iddo.
>
> 'Rwy'n ystyried "[ar]chwilio / chwilota / rhwydo pyllau" ond byddwn
> i'n meddwl bod 'na ryw un term sy'n fwy cyffredin na'r lleill.
>
> Gyda llaw, 'rwyf wedi gweld sawl enghraifft o "trochi pyllau" - wn i
> ddim a yw hyn o ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth ynghylch beth yw "pond
> dipping" ynteu diffyg gwybodaeth ynghylch ystyr "trochi". Mae ffermwr
> yn trochi defaid ac mae plant yn medru ymdrochi mewn pwll. Nid oes
> modd trochi pwll, ac efallai byddai "Miss" yn cael sioc tasai'r plant
> yn cymryd yn eu pennau i drio.
>
> Gyda diolch am unrhyw awgrymiadau,
>
> Ann
>
|