A all un ohonoch egluro beth yw ystyr 'dibeniad' o ran brawddegu? Mae'n werth deall oherwydd ar adegau mae'n anodd gwybod p'un ai 'yw' ynteu 'y mae' i'w ddefnyddio. Er enghraifft - "Yn ganolog i lwyddiant y tîm, yw (YNTEU) y mae ..."
Gwerthfawrogwn unrhyw sylw. Mae Morgan D Jones yn Cywiriadur Cymraeg yn sôn am hyn ond yn anffodus nid yw'n dweud beth yw 'dibeniad'.
|