I mi mae trychfilod (minibeasts, efallai) yn ehangach, yn cynrychioli anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn gyffredinol, e.e. yn cynnwys pryfed cop (8 o goesau), pryfed llwyd (14 coes) ayyb.
Pryfetach ydi'r gair agosaf yn fy nhyb i. Mi faswn i'n deud y dosbarth Insecta = insects = pryfetach (6 coes), ac o fewn y rheini y drefn e.e. Diptera = flies = pryfed (sef pryfed gyda dwy adain), Coleoptera = beetles = chwilod, ayyb.
Defnyddir 'bugs' ar lafar yn Saesneg er yn wyddonol mae'r term yn fwy cywir i gynrychioli trefn o bryfetach o'r enw Hemiptera.
Dafydd
On Wed, 2 Mar 2016 11:08:04 +0000, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>National Insect Week - Rwy'n gweld bod tuedd i ddefnyddio "pryfed" am insects y dyddiau yma ond, i mi, "flies" yw "pryfed".
>A oes rheswm dros beidio â defnyddio "trychfilod"?
>Mae enghreifftiau o "Wythnos Genedlaethol (y) Pryfed" ac "Wythnos Genedlaethol Trychfilod" ar y we.
>
>Diolch
>
>Siân
|